Facebook
Cymraeg English

Sefydlwyd mudiad Pobl i Bobl yn wreiddiol yn sgîl argyfwng y ffoaduriaid a ddatblygodd dros Ewrop yn 2015. Ein nod yw helpu pobl sydd mewn argyfwng drwy ddarparu cymorth a chefnogaeth bersonol, waeth beth fo’u hil, eu crefydd neu eu lleoliad. Mae Pobl i Bobl yn estyn cyfeillgarwch ac undod i unrhyw un sydd mewn angen, ble bynnag y bo; Pobl i Bobl, Cymru i’r Byd.

Pan ddaw pobl ynghyd, gall pethau rhyfeddol ddigwydd; gallwn wneud gwahaniaeth.

HOFFECH CHI GYNNIG RHODDION?

Os hoffech chi roi nwyddau i Pobl i Bobl, meddyliwch am “ddillad gwersylla”! Rydyn ni'n derbyn dillad hamdden i oedolion (ond dim mwy na maint Mawr), plant a babanod – rhaid iddynt fod yn ymarferol a glân ac o ansawdd da - topiau, pyjamas, trowsusau hir a byr, sgerti, ffrogiau, siwmperi, topiau cnu (fleeces), cotiau glaw ac esgidiau hamdden, esgidiau chwaraeon, sandalau, flip-flops a crocs. Rydym yn derbyn dillad haf rhwng Chwefror ac Awst a dillad gaeaf rhwng Medi ac Ionawr.

Rydyn ni hefyd yn casglu teganau, pramiau, gwlâu teithio i fabanod, beiciau, sgwteri, sachau cysgu, blancedi cnu a phebyll (rhaid iddynt fod yn gyflawn). Unwaith eto, gofynnwn i chi sicrhau bod popeth yn lân ac yn gweithio'n iawn os gwelwch yn dda.

BLE GALLWCH CHI ADAEL EICH RHODDION?

BANGOR: Siop Swigod Dr Zigs, Stâd y Faenol (drwy Barc Menai), LL57 4BP Pob dydd 10-4
BANGOR: Siop Crystalize, Stryd Fawr (o dan Blue Sky), Llun – Sadwrn 10-4
CWM-Y-GLO: Y Fricsan. Unrhyw dro ond ffoniwch 07738 859585 i gadarnhau cyn teithio os gwelwch yn dda
LLANRWST: Menter Iaith Conwy, Y Sgwâr, Llanrwst, LL26 OLG, Llun – Gwener 9.30-5
CAERGYBI: Swyddfa Plwyf y Santes Fair, Ffordd Longford (gyferbyn â Meddygfa Ffordd Longford), Llun - Gwener 10-3.30

HOFFECH CHI ROI ARIAN TUAG AT ACHOS Y FFOADURIAID?

Mae Pobl i Bobl yn codi arian am dri rheswm yn benodol:
1) Er mwyn talu am gymorth i'w anfon i Syria, Groeg a Ffrainc
2) I ariannu prosiectau ar y tir (e.e. Hope Cafe yn Athen, gwasanaethau golchi Dirty Girls of Lesvos, y rhai sy'n helpu'r digartref yn Dunkirk a Calais, canolfannau cymunedol a cheginau bwyd mewn gwersylloedd ffoaduriaid yng ngwlad Groeg)
3) I helpu'r prosiect ailgartrefu yng ngogledd Cymru.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw faes penodol sy'n ymwneud â chefnogi ffoaduriaid, mae croeso i chi anfon neges at y grŵp ac fe wnawn ein gorau i'ch rhoi ar y trywydd iawn.

Founded as a response to the beginning of the European refugee crisis in 2015, Pobl i Bobl (Welsh for People to People) aims to help people in crisis by providing physical aid and personal support, regardless of race, religion and location. Wherever people in need may be Pobl i Bobl extends the hand of friendship and solidarity; Pobl i Bobl, Wales to the World.

When people come together remarkable things can happen; we can make a difference.

WANT TO DONATE ITEMS?

If you are interested in donating physical aid to Pobl i Bobl, the best thing is to "think camping"! We accept good, clean but practical, casual clothes for adults (but nothing bigger than Large size), children and babies - tops, pyjamas, trousers, shorts, skirts, dresses, jumpers and fleeces, raincoats and casual shoes, trainers, sandals, flip-flops and crocs. Please donate summer clothes from February-August and winter clothes from September-January.

We also collect toys, pushchairs, travel cots, bicycles, scooters, sleeping bags, fleece blankets, tents (must be complete). Again, everything must be clean and in good working order.

WHERE TO DROP-OFF AID?

BANGOR: Dr Zigs Bubble Shop, Vaynol Estate (via Parc Menai), LL57 4BP Daily 10-4
BANGOR: Crystalize Shop, High Street (Under Blue Sky) Mon-Sat 10-4
CWM Y GLO: Y Fricsan. Anytime but please contact 07738 859585 to confirm before travelling
LLANRWST: Menter Iaith Conwy, The Square, Llanrwst. LL26 OLG Monday-Friday 9.30-5
HOLYHEAD: St Mary's Parish Office, Longford Road (opposite Longford Road Surgery) Monday-Friday 10-3.30

WANT TO DONATE MONEY TO THE REFUGEE CAUSE?

Pobl i Bobl fund raises for three main reasons:
1) To help pay for aid to be sent out to Syria, Greece, France
2) To send money to projects on the ground (eg Hope Cafe in Athens, Dirty Girls of Lesvos washing service, those helping the homeless in Dunkirk and Calais, community centres and food kitchens in Greek refugee camps etc)
3) To help the resettlement project in North Wales.

If you would like more information or have an interest in a specific area of refugee support, then feel free to message the group and we will try to steer you in the right direction